Nid dim ond mewn swyddi elusennau y gwelwch chi fwriadau da bob dydd.
Mae’r Comisiwn Elusennau yn lle hynod werth chweil i weithio. Gwelwn y gwahaniaeth y mae elusennau’n ei wneud, a chawn effaith hefyd ar eu rôl yn y wlad hon a thramor. Deallwn fod angen mwy na bwriadau da ar elusennau i lwyddo – ein gwaith ni yw sicrhau eu bod yn eu cyflawni hefyd.
A chyda dros 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, sy’n cynhyrchu dros £45 biliwn y flwyddyn, mae ein rôl fel rheolydd yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cadw eu haddewidion. Yn fyr, gwnawn yn siŵr fod pob bwriad da yn cyfrif.
Bydd y safle hwn yn dweud mwy wrthych ynghylch sut y gwnawn hyn, ac yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan o’r hyn a wnawn. Felly, os yw’ch cefndir mewn swyddi elusennau neu faes arall, porwch trwy’r dolenni i gael mwy o wybodaeth ac ewch i’n tudalen chwilio am swydd i weld pa gyfleoedd sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
Bydd clicio ar unrhyw un o’r dolenni hyn yn mynd â chi at dudalen Saesneg.

